Dewiswch eich iaith

Dewis Iaith

Polisïau  Popeth Cymraeg

  • Mae Popeth Cymraeg a Coleg Cambria wedi cydweithio i sicrhau fod polisïau Popeth Cymraeg mor agos ag sy’n ymarferol bosib i bolisïau ein partner Coleg Cambria. Mae hynny wedi golygu bod Popeth Cymraeg weithiau wedi mabwysiadu un o bolisïau Coleg Cambria yn ddigyfnewid, weithiau wedi addasu un o bolisïau Coleg Cambria fel ei fod yn gweddu i sefyllfa unigryw Popeth Cymraeg ac weithiau wedi ei hepgor gan ei fod yn amherthnasol (e.e. gwasanaethau nas cynigir gan y sefydliad).
  • Mae fwy o fanylion am y berthynas rhwng polisïau Popeth Cymraeg a pholisïau Coleg Cambria ar gael yn y ddogfen bolisi gyntaf isod.
  • Os byth y cyfyd gwrthdaro posib rhwng polisïau Coleg Cambria a pholisïau Popeth Cymraeg bydd polisïau Popeth Cymraeg yn ddarostyngedig i bolisïau Coleg Cambria.

 

 

Polisïau Coleg Cambria