Dewiswch eich iaith

Dewis Iaith

Dadawgrymeg

aduniad cariadiaithDros y blynyddoedd mae Popeth Cymraeg wedi arloesi ym maes Methodolegau Dysgu Iaith Amgen yng Nghymru. Rydym wedi astudio nifer o ddulliau i weld pa rai sydd, yn ein barn ni, y mwyaf effeithiol ac wedi dod i'r casgliad mai’r dull mwyaf ffrwythlon yr ydym wedi dod ar ei draws yw Dadawgrymeg. Rydym yn cynnig dosbarthiadau Dadawgrymeg Cymraeg (Cyrsiau Dysgu Popeth) i oedolion yng Ngogledd Ddwyrain Cymru gyda chefnogaeth lawn y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Ni yw'r unig sefydliad yng Nghymru sy'n gymwys i wneud hyn.


Cafodd Ioan Talfryn, Prif Weithredwr Popeth Cymraeg, ei hyfforddi mewn Dadawgrymeg gan sylfaenydd y dull, Dr. Georgi Lozanov. Mynychodd sesiynau hyfforddi estynedig dros nifer o wythnosau yn Awstria a Bwlgaria. Daeth Dr. Lozanov i Gymru am bythefnos i’w hyfforddi i fod yn hyfforddwr ei hun gan ei wneud yn gymwys i hyfforddi tiwtoriaid newydd. Am nifer o flynyddoedd bu’n is-gadeirydd y gymdeithas ryngwladol a sefydlwyd gan Dr. Lozanov i hyrwyddo'r dull, LITA (Cymdeithas Hyfforddwyr Rhyngwladol Lozanov / Lozanov International Trainers Association).
 

Beth yw tarddiad Dadawgrymeg?

Fe'i crëwyd yn wreiddiol gan y seicolegydd Bwlgaraidd Dr.Georgi Lozanov nôl yn y saithdegau. Mae bellach wedi lledaenu ar draws y byd. Cymerodd y Americanwyr y cysyniad a'i ailbecynnu fel `Accelerated Learning '.
 
Y rheswm yr ydym fel corff wedi cymryd diddordeb yn y dull hwn yw am ei fod yn adnabyddus fel ffordd llawer mwy effeithiol o ddysgu ieithoedd na dulliau eraill. Rydym wedi cynnal nifer o gyrsiau Dad-Awgrymaidd Cymraeg ac mae ymateb a chyflawniad y myfyrwyr a'n cymariaethau ni’n hunain gyda dulliau eraill yn cefnogi hyn.
 

Ym mha ffordd y Dadawgrymeg yn wahanol i ddulliau eraill o ddysgu ieithoedd?

Mae dulliau eraill yn y bôn yn anelu at gyflwyno oneu ‘ddysgu’ elfennau cyfyngedig, dethol o iaith i fyfyrwyr, naill ai strwythurau gramadegol neu ffwythiannau iaith, yn raddol. Prif nod Dadawgrymeg yw i ryddhau myfyrwyr o flociau meddyliol mewnol fel y gallant `gaffael' iaith mewn modd mwy penagored yr un ffordd ag y mae plant ifanc yn ei wneud.
 

Sut mae'n cyrraedd y nod hwn?

Mae pedwar cam sylfaenol mewn Dadawgrymeg
.
a) Dad-awgrymu ac Ailawgrymu
 
Mae llawer o fyfyrwyr yn dod i mewn i sefyllfa ddysgu iaith ym Mhrydain heb wir gredu eu bod yn gallu dysgu iaith arall. Gall y rheswm am hyn fod yn gymdeithasol (nid ystyrir  amlieithrwydd yn rhywbeth arferol ym Mhrydain fel y gwneir mewn rhannau eraill o'r byd) neu gall fod yn bersonol (h.y. cawsant brofiad gwael gyda ieithoedd dysgu yn yr ysgol). Rôl yr athro Dadawgrymeg yw cael y myfyrwyr, yn raddol ac yn anymwthiol, i newid eu hunan-ddelwedd fel dysgwyr a mabwysiadu agwedd feddyliol fwy cadarnhaol a disgwyliadau uwch.
 
b) Arwain y Myfyrwyr i mewn i’r Cyflwr Meddyliol ac Emosiynol Priodol.
 
Mae ymddygiad yr athro a'r defnydd o gerddoriaeth, gemau a gweithgareddau eraill yn cael ei gyfeirio tuag at y gwaith o greu gyflwr cymunedol o ganolbwyntio hapus, ymlaciedig - megis pan fydd pobl yn llwyr ymgolli yn eu hoff hobi.
 
c) `Llwytho’ Swmp Mawr o Iaith i mewn i’r Isymwybod.
Gwneir hyn trwy ddwy `gyngerdd’ iaith sy'n defnyddio Cerddoriaeth Baróc a Cherddoriaeth Glasurol o’r cyfnod Rhamantaidd, testun swmpus ar ffurf stori emosiynol ddiddorol a phosteri ar y waliau.
 
ch)  Deffro’r Iaith a Fewnbynnwyd
.
Codi’r iaith sydd wedi ei llwytho yn yr isymwybod i fyny i'r rhan ymwybodol o’r meddwl trwy gyfrwng gemau, caneuon, gweithgareddau, symud a phob math o ysgogiadau synhwyraidd.
 
Mae hyn, wrth gwrs, yn debyg iawn sut mae plant bach yn cael eu dysgu. Mae hefyd yn cyd-fynd â'r hyn rydym yn ei wybod am y broses o gaffael iaith.
 

Egwyddorion Sylfaenol y Broses o Gaffael Iaith

 
  • Mae dealltwriaeth yn rhagflaenu ac yn ehangach na'r gallu i gynhyrchu iaith.
  • Nid yw 'gwallau' ieithyddol yn arwyddion o fethiant gan eu bod yn gam ymlaen mewn trefn ddatblygiadol gyffredin.
  • Y ffordd orau i godi gramadeg yw trwy ei ymsugno’n ddiarwybod. Gellir ei gadarnhau, fodd bynnag, yn ymwybodol.
  • Mae gan fodau dynol duedd genetig  i gaffael ieithoedd cyn belled â'u bod yn cael mewnbwn ieithyddol sy'n ddigonol o ran swmp a chymhlethdod. (Gweler hefyd Ants in my Head yn yr adran Erthyglau Ynglŷn â Dadawgrymeg sy'n trafod Dadawgrymeg o safbwynt Damcaniaeth Cymhlethdod - nid yw mor gymhleth ag y mae'n swnio, wir i chi.)
 

Amlinelliad o’r Cylch Dysgu Dadawgrymaidd

 

1.  Mabwysiadu Personoliaethau Newydd.

Mae pob aelod o gwrs Dadawgrymeg newydd yn cymryd enw a hunaniaeth newydd megis Lowri Bowen o Ddowlais sy'n Glown Professional neu Brychan Ap Llywarch o Dinbych sy'n Chwaraewr Snwcer.  Gwneir hyn mewn modd ysgafn, ond mae’r rhesymeg y tu ôl iddo yn ddifrifol iawn. Ymhob gwers, bydd y tiwtor a'r myfyrwyr eraill ond yn defnyddio’r enwau hyn pan fyddant yn siarad â’i gilydd a'r awgrym cynnil, felly, yw eu bod eisoes yn siarad Cymraeg. Mae hyn ychydig fel athletwyr Olympaidd sydd dro ar ôl tro yn dychmygu eu hunain yn croesi'r llinell derfyn i ennill ras. Yn ein profiad ni y myfyrwyr ar gyrsiau Dadawgrymeg sy’n uniaethu fwyaf â’u personoliaethau newydd sy’n tueddu hefyd i fod y dysgwyr mwyaf llwyddiannus.

 

2. Gorolwg o brif gynnwys ieithyddol rhan gyntaf y Cwrs Dadawgrymeg (sef drama mewn 12 ac).

Ar ddechrau pob act bydd y tiwtor yn actio’r stori y bydd y dosbarth yn ei ddarllen yn nes ymlaen. Defnyddir propiau i sicrhau fod yr hyn a adroddir yn lled ddealladwy.
Mae hyn yn debyg i’r broses o baratoi darn o bren gyda ‘primer’cyn i chi ei beintio. Yr act gyntaf yw'r hiraf ac mae’n cyflwyno llawer iawn o eirfa a gramadeg.

 

3. Y Gyngerdd Weithredol

Bydd y dysgwyr yn derbyn copi o’r act, ynghyd â chyfieithiad ohoni, ac yn cael amser i ddarllen trwyddi’n gyflym. Wedyn, bydd y tiwtor yn llafarganu’r testun i gyfeiliant cerddoriaeth Mozart, Beethoven neu gyfansoddwyr Rhamantaidd eraill. Bydd y dysgwyr yn dilyn y darlleniad yn eu llyfrau.

Mae'r cyfuniad o gerddoriaeth a geiriau yn fwy cofiadwy na geiriau ar eu pen eu hunain.. Gellid ystyried y cam hwn fel yr haen gyntaf o baent.

 

4. Egwyl

 

5. Y Gyngerdd Oddefol

Nid yw'r myfyrwyr yn darllen y testun y tro hwn Maent yn eistedd yn ôl ac yn gwrando ar y testun yn cael ei ddarllen unwaith eto i gyfeiliant cerddoriaeth, y tro hwn cerddoriaeth Baroque.  Mae rhai dysgwyr yn cau eu llygaid ond does dim rhaid.

Dyma’r haen olaf o baent ac mae holl gynnwys ieithyddol yr act gyntaf  wedi’i gyflwyno.  Dyma hefyd ran olaf y wers gyntaf.

Bydd y myfyrwyr wedi ymsugno llawer iawn o iaith ond bellach mae angen i hyn setlo. Mae cwsg yn hanfodol i alluogi'r ymennydd i ddechrau trefnu’r holl fewnbwn ieithyddol y mae wedi ei dderbyn. Y cyfan yr ydym yn gofyn i'r myfyrwyr ei wneud yw darllen yr act cyn mynd i gysgu fel pe baent yn darllen stori fer (gan ddefnyddio’r cyfieithiad Saesneg lle bo angen).

 

6. Deffro’r Iaith ac Ymhelaethu ar y Testun

Yn ystod y gwersi sy’n dilyn bydd y tiwtor yn defnyddio ystod eang o weithgareddau wedi'u hanelu at ddod â'r iaith a anelwyd yn wreiddiol at ymylon eu hymwybyddiaeth i ganol y llwyfan, fel petai. Gwneir hyn trwy chwarae o gwmpas gyda’r testun ei hun a hefyd trwy ddefnyddio rhannau o'r testun fel man cychwyn i gyfathrebu yn yr iaith. Y peth pwysig yw caniatáu i'r iaith lifo allan yn naturiol. Y nod cychwynnol yw helpu myfyrwyr i ddatblygu eu dealltwriaeth o'r iaith ac wedyn cânt eu hysgogi i fynegi eu hunain yn rhydd.

Mae'r ymhelaethu hwn yn debyg i’r broses o ychwanegu haenau ychwanegol o baent ar ddarn o bren.  Canolbwyntir weithiau ar elfennau o ramadeg ond dim ond unwaith y bydd y myfyrwyr wedi ymgyfarwyddo â hwy yn anymwybodol lawer gwaith o'r blaen.  Mireinio cyson yw’r hyn sy’n arwain at feistrolaeth ar yr iaith yn y pen draw.

 

Dylai'r dosbarthiadau Dadawgrymeg fod yn hwyl ac yn ymlaciol tra'n cael y myfyrwyr i ganolbwyntio'n llwyr ar y broses o feistroli'r Gymraeg. Defnyddia Dr. Lozanov  y term ‘hwyl neu ysgafnder difrifol’ i ddisgrifio'r dull. Os edrychwch chi ar y fideos o'r gwersi Cariad@iaith ar y wefan hon credwn y byddwch yn gweld bod y ddwy agwedd, yr hwyl a'r difrifoldeb, yn cael eu cydblethu wrth gynllunio a chyflwyno pob gwers. Darlledwyd Cariad@iaith dros gyfnod o 5 mlynedd ar S4C gyda’r cyfresi’n dilyn y daith a gymerwyd gan grwpiau o ddysgwyr (enwogion ac aelodau cyffredin o'r cyhoedd) wrth  dreulio wythnos mewn lleoliad dysgu diarffordd yn dysgu a defnyddio’uu Cymraeg.  Roedd y  cwrs a ddefnyddid ar y rhaglenni hyn bob (heblaw am 2011) yn gwrs Dadawgrymeg newydd a gynlluniwyd cwrs gan Ioan Talfryn o Popeth Cymraeg ac ddysgwyd gan Ioan a'r cyflwynydd teledu a thiwtor Nia Parry. I wylio'r gwersi a lawrlwytho’r deunyddiau cwrs yn Gymraeg a Saesneg cliciwch ar y ddolen hon Cariad@iaith.

 

Nid yw'r recordiadau o'r gwersi wedi eu newid mewn unrhyw fodd ac maent yn adlewyrchu profiadau dysgu gwirioneddol y myfyrwyr. Maent yn bortread cywir o'r dull addysgu a llu o weithgareddau ysgafn sy'n ffurfio craidd cwrs Dadawgrymeg Cymraeg.

 

*Nodyn ar Derminoleg. Yn Saesneg cyfeirir at y dull weithiau fel Suggestopedia ac weithiau fel Desuggestopedia.  Y rheswm am hyn oedd bod Dr. Lozanov, yn ei flynyddoedd olaf, yn teimlo bod rhai pobl wedi camddeall diben y dull. Ei brif nod yw rhyddhau dysgwyr o ragdybiaethau negyddol ynglŷn â’u galluoedd dysgu, rhagdybiaethau a ymsugnwyd ganddynt yn anymwybodol o’r gymdeithas ehangach o’u cwmpas.  (Galwodd Dr. Lozanov hwy yn normau awgrymog cymdeithasol). Dyna paham yr ychwanegwyd y rhagddodiad De-.

 

Gan fod llawer iawn o lenyddiaeth eisoes wedi ei gyhoeddi eisoes yn ymwneud â Suggestopedia, fodd bynnag, wnaeth y newid hwn mewn enw ddim cydio yn Saesneg ac mae'r rhan fwyaf o bobl yn dal i gyfeirio at y dull fel Suggestopedia.  Roedd y term Cymraeg Dadawgrymeg, fodd bynnag, wedi ennill ei blwy ym maes Cymraeg i Oedolion a penderfynwyd, o’r herwydd, cadw ato.   Gellir darllen casgliad o erthyglau mwy manwl ynglŷn â  Dadawgrymeg  trwy glicio yma Erthyglau Ynglŷn â Dadwgrymeg.