Cariad@Iaith
Mae cysylltiad Popeth Cymraeg â’r gyfres deledu boblogaidd hon yn mynd yn ôl yn wreiddiol i 2002/2003 pan ofynnwyd i ni baratoi’r gwersi ar gyfer dau gwrs oedd yn sail i’r rhaglenni ‘pry ar y wal’. Caswom ein dewis oherwydd ein harbenigedd mewn Dad-Awgrymeg a defnyddiwyd y dull hwnnw yn y gwersi.
Bu seibiant wedyn tan 2011 pan ail-lawnsiwyd y gyfres ac unwaith eto cafodd prif weithredwr Popeth Cymraeg, Ioan Talfryn, ei wahodd i lunio’r gwersi a chyd-ddysgu ar y rhaglenni. Parhaodd y gyfres newydd tan 2015.
Gellwch wylio gwersi’r ail gyfres yn eu cyfanrwydd fan hyn. Gellwch hefyd lawrlwytho’r sgript yn Gymraeg ac yn Saesneg a chyd-ddysgu gyda’r dysgwyr gwreiddiol . Mwynhewch.