Mae Popeth Cymraeg yn gorff unigryw a sefydlwyd gan ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg lleol yn unswydd ar gyfer dysgu Cymraeg I Oedolion yn yr ardal. Nôl ym 1988 defnyddiodd Maer Dinbych, y Cyng. David E. Jones, ei araith faeryddol i lansio ymgyrch i sefydlu Canolfan Iaith yn Nyffryn Clwyd. Cafodd ei weledigaeth groeso eang a brwd ac o fewn tair blynedd roedd o ac aelodau eraill Ymddiriedolaeth Canolfan Iaith Clwyd wedi llwyddo yn eu bwriad. Bron i 30 mlynedd yn ddiweddarach mae Popeth Cymraeg, y corff cymunedol a ddatblygodd allan o’r ymgyrch gwreiddiol, yn mynd o nerth i nerth. Rhestrwn isod rhai o’n cerrig-filltir pwysicaf yn ystod y cyfnod hwn.
1988 David Jones, Maer Dinbych, yn lansio'r syniad o sefydlu Canolfan Iaith Clwyd.
1989 Ffurfio Ymddiriedolaeth a pherswadio Cyngor Sir Clwyd i drosglwyddo adeilad swmpus yng nghanol tref Dinbych i gartrefu'r ganolfan.
1990 Codi £105,000 i adnewyddu'r adeilad.
1991 Sicrhau grant blynyddol o du'r Swyddfa Gymreig o £20,000. (Cyflogi 1.5 person.) Agor y Ganolfan yn swyddogol.
1994 Ennill gwobr arbennig Addysg Oedolion NIACE (5 allan o 95 o grwpiau trwy Brydain).
1996 Arwyddo cytundeb masnachfraint (franchise) gyda thri Choleg Addysg Bellach lleol - Llandrillo, Glannau Dyfrdwy a Chelyn i redeg dosbarthiadau Cymraeg yn y gymuned ar eu rhan - o Saltney ar y ffin draw i Benmaenmawr.
1997 Rhedeg y cwrs 'Accelerated Learning' Cymraeg cyntaf.
1997 Ennill grant o £187,000 o du'r Loteri Genedlaethol i adeiladu estyniad i'r Ganolfan a chyflogi mwy o staff.
1998 Sefydlu Menter Dinbych-Conwy gyda chyllid o du Bwrdd Yr Iaith, Cyngor Colwyn a chynllun Cadwyn. Cyflogi dau swyddog newydd.
1998 Ennill Gwobr Fusnes Brydeinig y 'Journal Publishing Group'.
1999 Newid ein henw i 'Popeth Cymraeg /Welsh Unlimited' a dod yn gwmni cyfyngedig elusennol.
2001 Lansio llyfr “Dulliau Dysgu Ail Iaith” yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbych.
2001 Twf sylweddol yn ein niferoedd. Y tueddiad yn parhau.
2003 Gweithio ar Cariad@iaith.
2004 Gweithio ar SelebrityCariad@iaith.
2004 Agor arddangosfa barhaol ar hanes Popeth Cymraeg.
2006 Lansio CDRom "200 Words a Day Welsh".
2006 Cael Gradd 1 mewn Arolwg Estyn.
2007 Sefydlu Canolfan Cymraeg I Oedolion Gogledd Cymru – Popeth Cymraeg yn cael ei ariannu'n uniongyrchol bellach yn hytrach na thrwy'r colegau.
2008 Agor arddangosfa Gwefr Heb Wifrau.
2009 Agor Canolfan Iaith Dyffryn Conwy yn Y Tanerdy, Llanrwst
2011 – 2015 Popeth Cymraeg yn cydweithio gyda chwmni Fflic i greu Cariad@iaith. Popeth Cymraeg yn paratoi’r gwersi a phrif weithredwr Popeth Cymraeg, Ioan Talfryn yn cyd-ddysgu ar y rhaglenni gyda Nia Parry.
2012 – 2015 Popeth Cymraeg yn cydweithio gyda chwmni Fflic ar raglenni teledu eraill i ddysgwyr – Hwb, Hwb Bach a Galwch Acw
2016 Ad-drefnu Cymraeg I Oedolion yn genedlaethol. Popeth Cymraeg yn ymuno mewn partneriaeth gyda Choleg Cambria i ddarparu cyrsiau Cymraeg I Oedolion yn y Gogledd Ddwyrain.
2016 Agor swyddfa a rhedeg amrediad eang o wersi yng Nghanolfan Fusnes Bodelwyddan
2019 Penodi Tiwtoriaid-Drefnyddion
2020 Arolwg Estyn Ardderchog
2020 Symud ein holl ddarpariaeth ar-lein oherwydd y pandemig Covid 19.
2021 Twf aruthrol yn ein cofrestriadau oherwydd cyflwyno gwersi dros Zoom