Dewiswch eich iaith

Dewis Iaith

Mae’r bartneriaeth sy’n addysgu Cymraeg i oedolion ledled gogledd ddwyrain Cymru wedi derbyn canlyniad arolygiad ardderchog.

Cafodd Dysgu Cymraeg y Gogledd Ddwyrain - dan arweiniad Coleg Cambria a Popeth Cymraeg - ei ddyfarnu'n 'Rhagorol' gan Estyn, arolygiaeth addysg a hyfforddiant Cymru.

Mae miloedd o bobl yn Wrecsam, Sir y Fflint a Sir Ddinbych wedi elwa o'r ddarpariaeth Cymraeg i Oedolion, a ddarperir ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Gyda sesiynau yn cael eu cynnal ledled y rhanbarth ac ar-lein, mae Cambria a Popeth Cymraeg hefyd wedi darparu rhaglen hyblyg o gyfleoedd dysgu anffurfiol i ddysgwyr ymarfer eu sgiliau y tu allan i'r ystafell ddosbarth.

Gyda Llywodraeth Cymru yn gosod y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, mae'r ddau sefydliad yn benderfynol o helpu i gyflawni'r nod hwnnw.

Dywedodd Estyn fod gan yr arweinwyr “weledigaeth glir a phwrpasol” a bod y ddarpariaeth wedi llwyddo i greu “lefelau uchel o ofal a chefnogaeth i ddysgwyr”.

Ychwanegodd yr adroddiad: “Mae Dysgu Gogledd Ddwyrain Cymru yn gymuned gefnogol a chynhwysol, lle mae bron pob dysgwr wir yn mwynhau ac yn dangos brwdfrydedd amlwg tuag at bob elfen o ddysgu. 

“Mae llawer yn mynegi bod eu sgiliau bywyd yn cael eu cyfoethogi a’u hehangu trwy ddysgu Cymraeg. Mae hyn yn cael effaith gadarnhaol iawn ar eu llesiant.

“Mae gan arweinwyr Dysgu Gogledd Ddwyrain Cymru weledigaeth glir a chadarn iawn, sy’n canolbwyntio’n effeithiol iawn ar gynnydd a llesiant eu dysgwyr. Maent yn rhoi arweiniad meistrolgar i'w cydweithwyr i sicrhau bod gwaith y darparwr o safon uchel.”

Canmolwyd mabwysiadu cymunedau dysgu cynhwysol a chefnogol hefyd, ynghyd ag arddull “egnïol a brwdfrydig” tiwtoriaid, a’r cyfle i astudio Cymraeg mewn “cyd-destunau bywyd go iawn” yn y gymuned.

Dywedodd Llinos Roberts, Pennaeth Cyfathrebu Corfforaethol a’r Gymraeg yng Ngholeg Cambria, y bydd eu rhwydwaith o fwy na 50 o diwtoriaid yn parhau i hyrwyddo a chadw'r iaith am flynyddoedd lawer i ddod.

“Mae partneriaeth y coleg â Popeth Cymraeg wedi bod yn llwyddiannus ac yn boblogaidd gyda dysgwyr ledled gogledd ddwyrain Cymru, felly rwy'n falch iawn bod hynny'n cael ei adlewyrchu yn yr adroddiad arolygu hwn,” meddai Mrs Roberts.

“Er ein bod yn gweithio’n galed i helpu Llywodraeth Cymru i gyrraedd ei tharged o filiwn o siaradwyr Cymraeg, mae’n hanfodol bod y cyrsiau a’r rhaglenni rydym yn eu cyflwyno yn berthnasol, gan ychwanegu gwerth i gyfranogwyr ac amlygu pwysigrwydd yr iaith Gymraeg fel sgil gwerthfawr yn y gweithle.

“Bydd hynny’n helpu i sicrhau bod yr iaith yn parhau i fod yn sylweddol, yn fywiog ac wrth galon ein cymunedau yn y dyfodol.”

Yn gynharach eleni, enillodd Cambria y lle cyntaf a'r ail yng nghategori Tiwtor Cymraeg Gwaith yng Ngwobrau Cymraeg Gwaith 2020, ac mae'r sefydliad wedi arwain y ffordd wrth ddatblygu rhaglenni Cymru a diwylliant o gynhwysiant yn Wrecsam a'i safleoedd eraill yn Llysfasi, Glannau Dyfrdwy a Llaneurgain.

Yn ôl Ioan Talfryn, Prif Weithredwr Popeth Cymraeg “Rydyn ni wrth ein bodd â chanlyniad yr arolygiad ac yn gwerthfawrogi cefnogaeth eang Coleg Cambria yn fawr iawn. Mae hyn wedi ein galluogi fel sefydliad i gynnig rhaglen eang yn benodol yma yn Sir Ddinbych fel rhan o ddarpariaeth Gogledd Ddwyrain Cymru. ”

Ewch i www.learnwelsh.cymru i gael rhagor o wybodaeth am Ddysgu Cymraeg y Gogledd Ddwyrain.

I gael rhagor o wybodaeth am Goleg Cambria, ewch i'r wefan: www.cambria.ac.uk

I gael gwybodaeth am Popeth Cymraeg ewch i: www.popethcymraeg.cymru