Dewis Iaith

Hyfforddiant mewn Dad-Awgrymeg

Cafodd Ioan Talfryn, Prif Weithredwr Popeth Cymraeg ei hyfforddi mewn Dad-Awgrymeg gan sylfaenydd y dull, Dr. Georgi Lozanov. Mynychodd sesiynau hyfforddi estynedig dros gyfnod o wythnosau yn Awstria a Bwlgaria. Daeth Dr. Lozanov draw hefyd i Gymru am bythefnos i’w hyfforddi ymhellach i fyny i lefel hyfforddwr sy’n golygu ei fod yn gymwys i hyfforddi tiwtoriaid newydd. Am nifer o flynyddoedd bu’n is-gadeirydd y corff rhyngwladol a sefydlwyd gan Dr. Lozanov i hyrwyddo’r dull, LITA (Lozanov International Trainers Association).


Yn ogystal â hyfforddi tiwtoriaid i ddysgu cyrsiau Dad-Awgrymeg yn lleol fel rhan o raglen Cymraeg i Oedolion Popeth Cymraeg mae Ioan wedi cyflwyno mewn cynadleddau a sesiynau hyfforddi mewn rhannau eraill o Gymru, yn Lloegr, Cernyw, Ynys Manaw, Yr Almaen, Sbaen a Norwy. Mae hefyd wedi cynnal sesiynau hyfforddi TPR (Total Physical Response). Mae o wedi cyhoeddi llyfr Dulliau Dysgu Ail Iaith – Eu Hanes a’u Datblygiad sy’n cynnwys penodau ar Dad-Awgrymeg a TPR. (Gellir prynu copi o’r llyfr trwy gysylltu â Popeth Cymraeg.)


Mae wedi defnyddio Dad-Awgrymeg fel dull dysgu ar y rhaglenni teledu poblogaidd Cariad@iaith, y gyfres realiti ble mae criw o oedolion (selebs adnabyddus, yn aml) yn dysgu Cymraeg dros gyfnod o wythnos mewn sefyllfa o drochi ieithyddol llwyr. Gellwch wylio holl wersi 5 mlynedd o Cariad@iaith ar ein gwefan a lawrlwytho’r deunyddiau cwrs yn Gymraeg a Saesneg.
Os hoffech dderbyn hyfforddiant mewn Dad-Awgrymeg neu TPR cysylltwch gyda Ioan ar Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

Croeso i Popeth Cymraeg

Mae Popeth Cymraeg yn gorff unigryw, wedi'i sefydlu gan ddysgwyr Cymraeg ar gyfer dysgwyr Cymraeg