Dulliau Dysgu
Rydym yn defnyddio dau brif ddull o ddysgu Traddodiadol a Dysgu Popeth (Dadawgrymeg)
Dadawgrymeg
Dros y blynyddoedd mae Popeth Cymraeg wedi arloesi ym maes Methodolegau Dysgu Iaith Amgen yng Nghymru. Rydym wedi astudio nifer o ddulliau i weld pa rai sydd, yn ein barn ni, y mwyaf effeithiol ac wedi dod i'r casgliad mai’r dull mwyaf ffrwythlon yr ydym wedi dod ar ei draws yw Dadawgrymeg. Rydym yn cynnig dosbarthiadau Dadawgrymeg Cymraeg (Cyrsiau Dysgu Popeth) i oedolion yng Ngogledd Ddwyrain Cymru gyda chefnogaeth lawn y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Ni yw'r unig sefydliad yng Nghymru sy'n gymwys i wneud hyn.
Traddodiadol
Cyrsiau Traddodiadol unwaith yr wythnos (rhwng 2 a 3.25 awr yr wythnos).
Dan ni’n defnyddio'r gwerslyfrau cenedlaethol (Mynediad, Sylfaen, Canolradd, Uwch) gyda deunydd atodol.