Ar gyfer cyrsiau ar-lein yn unig dilynwch ‘Cyrsiau Traddodiadol’ yna dewis ‘Cwrs Cyfunol’
Mae Popeth Cymraeg yn cynnig sawl math o gwrs
- Dychwelwyr 20% - Côd DYCH20 Dysgwyr sy'n dychwelyd i ddysgu am yr ail flwyddyn +. Os oes bwlch o fwy na blwyddyn yn y dysgu yna nid yw'r dysgwr yn gymwys.
- Pensiynwyr sy’n derbyn credyd pensiwn 40% - Côd PEN20
- Myfyrwyr sy’n astudio cwrs hyfforddiant gyda choleg neu brifysgol 40% - Côd MYF20
- Derbyn Budd-daliadau 40% - Côd BUDD20
Cyrsiau Ionawr - unwaith yr wythnos (rhwng 2 a 3 awr yr wythnos)
Cyrsiau Traddodiadol unwaith yr wythnos (rhwng 2 a 3 awr yr wythnos)
Cyrsiau Dysgu Popeth yn defnyddio y dull arloesol Dadawgrymeg a ddefnyddiwyd ar raglenni teledu Cariad@iaith . Mae’r cyrsiau yma fel arfer tua 3.5 i 6 awr yr wythnos.
Cyrsiau Bloc Cyrsiau dwys o 2, 3, 4 neu 5 diwrnod (nid yn breswyl)
Sadyrnau Siarad Cyrsiau undydd ar Ddydd Sadwrn
Cyrsiau Blasu - Cyrsiau Byr i ddechreuwyr
Os hoffech drafod pa gwrs fyddai’n addas i chi cysylltwch â ni ar
01745 812287 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
I gofrestru ar lein cliciwch ar ddolen yng ngholofn olaf ein rhestri cyrsiau neu ewch i https://dysgucymraeg.cymru/dysgu/dod-o-hyd-i-gwrs/.
Anghenion Mynediad i'r Anabl
Os oes gynnoch chi unrhyw anghenion mynediad a wnewch chi gysylltu â ni o flaen llaw, os gwelwch yn dda, er mwyn i ni fedru hwyluso pethau i chi: 01745 812287
Am fanylion ynglŷn â dosbarthiadau yn siroedd Y Ffint a Wrecsam cysyllter â’n partner Coleg Cambria ar 01978 267596.